P-03-307 Dylunio er mwyn Arloesi yng Nghymru

Geiriad y ddeiseb

 

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cynulliad Cymru i ystyried y rôl bwysig y gallai dylunio ei chwarae yng nghyd-destun arloesi, darparu gwasanaethau cymdeithasol a gweithredu polisïau a rhaglenni menter gymdeithasol. Mae’r alwad hon yn dod yn sgil ymrwymiad cynyddol gwledydd eraill ar draws y byd i’r agenda dylunio, ac yn baratoad ar gyfer polisi arloesi newydd y disgwylir i’r Comisiwn Ewropeaidd ei gyhoeddi. Mae’r polisi newydd hwn yn debygol o gynnwys diffiniad ehangach o arloesi, sef diffiniad sy’n ymdrin â’r gwasanaethau a ddarperir yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r sector mentrau cymdeithasol, ar delerau cydradd â’r gweithgareddau traddodiadol a welir yn y maes ymchwil a datblygu.

 

Linc i’r ddeiseb:  http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=908

Cynigiwyd y ddeiseb gan: Gavin Cawood

Nifer y llofnodion: 369

Ystyriwyd gan y Pwyllgor ar: 16 Tachwedd 2010, 11 Ionawr a 1 Mawrth, 12 Gorffenaf 2011.

Y wybodaeth ddiweddaraf: Cafwyd gohebiaeth gan y Pwyllgor Menter a Busnes.